ArwelOWENDymuna Gwenda, Sonia a theulu'r diweddar Arwel ddiolch o galon i'w teulu, ffrindiau a chymdogion am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli brawd, cymar, ewythr a hen ewythr oedd mor annwyl iddynt. Diolch am y galwadau ffôn, yr ymweliadau, y llu cardiau a'r presenoldeb ddydd yr angladd ac am y rhoddion anrhydeddus o £1,500 a dderbyniwyd er cof amdano i'w rhannu yn gyfartal rhwng elusenau Amyloidosis a Chanser y Pancreas. Derbyniwyd gofal arbennig gan ddoctoriaid a 'staff y dderbynfa' Meddygfa Waunfawr, y Nyrsus Cymunedol a Lliniarol yn ogystal a Ward Alaw Ysbyty Gwynedd. Hoffem ddiolch i'r Parchedig Gwenda Richards am ei gwasaneth ddydd yr angladd, i Angharad Wyn Jones yr organyddes ac i Iolo a'r Tîm o Roberts & Owen am eu trefniadau trylwyr a teimladwy.
Keep me informed of updates